Croeso i Flwyddyn 1/ Welcome to Year 1
Croeso i Flwyddyn 1!
Welcome to Year 1!
Staff:
Mrs Carys Jones
yw'r athrawes ddosbarth/ is the class teacher.
Miss Anwen Harris
sy'n cynorthwyo o fewn y dosbarth/ is the teaching assistant within the class.
Amseroedd/ School times:
Dydd Llun - Dydd Gwener, 08:50 - 15:20
Monday - Friday, 08:50-15:20
Thema'r dosbarth/ Class theme:
|
Blwyddyn 1 |
Mae gen i dipyn o dŷ bach twt |
Cymru |
Anifeiliaid |
Mae disgyblion Blwyddyn 1 yn parhau â’u taith ddysgu o fewn Cwricwlwm i Gymru, gan adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd yn y Dosbarth Derbyn. Mae ffocws cryf ar ddatblygu dysgwyr i fod yn fwy annibynnol, gan eu hannog i wneud dewisiadau, trefnu eu dysgu a chymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu gwaith.
Un o brif flaenoriaethau’r flwyddyn yw datblygu medrau darllen y dysgwyr. Rhoddir pwyslais mawr ar addysgu ffoneg, gan helpu’r plant i adnabod synau, cyfuno llythrennau a datblygu rhuglder a hyder wrth ddarllen. Caiff y sgiliau hyn eu hymarfer yn rheolaidd trwy weithgareddau hwyliog ac ystyrlon sy’n meithrin cariad at lyfrau a darllen.
Yn ogystal, mae’r disgyblion yn datblygu eu sgiliau ysgrifennu, rhifedd, cyfathrebu a datrys problemau ar draws pob maes dysgu a phrofiad. Mae’n bwysig cofio bod pob plentyn yn dysgu ac yn datblygu ar ei gyflymder ei hun, ac rydym yn cefnogi pob unigolyn i gyflawni ei botensial mewn amgylchedd cynnes, gofalgar a chefnogol.
Year 1 pupils continue their learning journey within the Curriculum for Wales, building on the skills developed in Reception. There is a strong focus on developing learners’ independence, encouraging them to make choices, organise their learning and take increasing responsibility for their work.
A key priority during the year is the development of pupils’ reading skills. A significant emphasis is placed on phonics, helping children recognise sounds, blend letters and develop fluency and confidence in reading. These skills are practised regularly through engaging and meaningful activities that foster a love of books and reading.
In addition, pupils continue to develop their writing, numeracy, communication and problem-solving skills across all Areas of Learning and Experience. It is important to remember that every child learns and develops at their own pace, and we support each individual to achieve their full potential within a warm, caring and supportive environment.
Gwaith Cartref/ Homework:
Danfonir gwaith cartref allan yn wythnosol naill ai ar bapur neu ar Microsoft Teams. Rhoddir gwaith cartref sillafu a llyfrau darllen wythnosol hefyd.
Homework is sent out weekly. The homework will be given either in paper format or digitally via Microsoft Teams. Spelling and reading work will be set as extra homework activities.
Aml-ieithrwydd/ Multilingualism:
Mae'r ysgol yn cyflwyno nifer o ieithoedd ar lawr y dosbarth. Mae disgyblion Blwyddyn 1 yn canolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau Sbaeneg.
We introduce the children to a wide variety of languages across the school. year 1 will further develop their knowledge of Spanish.