Mae gan yr ysgol strwythur cadarn ar gyfer tracio presenoldeb. Mae’r ysgol yn gwneud defnydd da o ddata er mwyn targedu grwpiau ac unigolion i wella agweddau penodol o’u presenoldeb. Mae systemau gwobrwyo’r ysgol yn annog y rhan fwyaf o ddisgyblion i wneud eu gorau glas i ddod i’r ysgol.
Swyddog lles yr ysgol: Mrs Rhiannon Smith
The school has a sound structure for tracking attendance. The school makes good use of data in order to target groups and individuals to improve specific aspects of their attendance. The school’s reward systems encourage the majority of pupils to do their best to attend school.
Educational Welfare Officer: Mrs Rhiannon Smith
Rydym yn gweithio ar wella presenoldeb ein disgyblion. Yn ystod 2024-2025 roedd canran uchel o’n disgyblion â phresenoldeb o dan 90% ac mae’n rhaid i ni wella ar hyn.
CODODD CANRAN PRESENOLDEB YSGOL BRYNIAGO 0.9% YN YSTOD 2024-2025. FODD BYNNAG, BU NIFER FAWR O DDISGYBLION AR WYLIAU YN YSTOD Y FLWYDDYN AC FE GAFODD HYN EFFAITH FAWR AR BRESENOLDEB YR YSGOL GYFAN.
Ar ddiwedd bob tymor, byddwn yn danfon llythyr adref I rieni/ gwarchodwyr plant Blwyddyn 1-6 er mwyn egluro i chi beth yw canran presenoldeb eich plentyn.
Mae presenoldeb rheolaidd yn allweddol os yw plentyn am fanteisio i'r eithaf ar eu cyfnod yn yr ysgol. Mae'r ysgol yn pwysleisio bod presenoldeb rheolaidd yn holl-bwysig er mwyn sicrhau datblygiad addysgol a chymdeithasol y plentyn. Mae'r mwyafrif o rieni a gwarchodwyr yn awyddus i sicrhau y caiff eu plentyn bob cyfle posibl i ddatblygu i'r eithaf, ac yn awyddus i'w plentyn dderbyn addysg o'r safon uchaf.
Dim ond un cyfle y mae plant yn ei gael yn yr ysgol, a gallai peidio â mynychu’r ysgol yn rheolaidd effeithio ar siawns eich plentyn o ddyfodol llwyddiannus
Gall absenoldebau arwain at broblemau sefydlu perthynas gyda chyd-ddisgyblion neu gyda staff o fewn yr ysgol. Yn aml nid yw plentyn sydd yn absennol neu'n hwyr yn rheolaidd yn teimlo'n gysurus yn yr ysgol. Nid yw plentyn yn mwynhau'r profiad o orfod cyrraedd ysgol yn hwyr a cherdded i mewn i'r dosbarth neu'r neuadd ar ôl pob un arall.
Ynghyd â’r Swyddog Addysg Lles, byddwn yn monitro ac yn adolygu canrannau presenoldeb bob plentyn yn rheolaidd. Yn unol â chanllawiau sirol, byddwn yn hysbysu rhieni os yw presenoldeb eu plentyn yn disgyn o dan 92% (gan gynnwys absenoldebau wedi eu hawdurdodi).
Salwch: Rydyn ni’n deall bod plant yn mynd i fod yn dost. Gofynnwn yn garedig i chi wneud pob ymdrech i ddanfon eich plentyn i’r ysgol. Pe bai staff yr ysgol yn gweld bod eich plentyn yn dost yn ystod y dydd yna byddwn yn cysylltu gyda chi yn syth. Os bydd y swyddog lles yn sylwi bod plentyn yn absennol o’r ysgol yn gyson oherwydd salwch yna fe all gysylltu gyda chi a gofyn am dystiolaeth meddygol o’r salwch.
Gwyliau: Mae disgwyl i bob plentyn fynychu’r ysgol yn ystod y tymor ysgol. RHAID i rieni/ gofalwyr gwblhau’r ffurflen cais am wyliau cyn mynd a’u plentyn o’r ysgol. Os yw canran presenoldeb eich plentyn o dan 95% am 2024-2025 yna ni awdurdodir gwyliau gan yr ysgol.
Mae nifer o blant yn cyrraedd yr ysgol yn hwyr yn y boreau hefyd. Nodwch bod disgwyl i’r plant fod yn y dosbarth am 08:50.
Gobeithio y gallwch gyd weithio â ni er mwyn gwella a chodi presenoldeb yr ysgol gyfan.

We are actively working to improve pupil attendance and punctuality. Last year, a significant number of children had attendance rates below 90%, and raising this figure is a key priority moving forward.
The school successfully increased its overall attendance by 0.9% last year. However, a high number of pupils took holidays during term time, which had a significant negative impact on our attendance figures.
At the end of each term, we will send a letter home to parents/carers of pupil in Year 1-6, explaining your child’s attendance and whether it needs to be improved.
Regular attendance and punctuality are important if children are to take part fully in the life of the school and to take advantage of the learning opportunities offered by the school. We recognise that attending school regularly and punctually is vital to the educational process and encourages a good pattern of work. Most Parents and Carers want their children to get on well in life.
Children only get one chance at school, and your child's chances of a successful future may be affected by not attending school regularly.
If children do not attend school regularly, they may not be able to keep up with school work. In a busy school day it is difficult for teachers to find the extra time to help a child catch up; and it's not only the academic work. Missing out on the social aspect of school life, especially at primary school, can affect children's ability to make and keep friendships, a vital part of growing up. Setting good attendance patterns from an early age will also help your child. Being on time is also vital. Together with the county's Education Welfare Officer, we will be monitoring each child’s attendance and punctuality on a regular basis. Following county guidelines, we will be contacting parents if a child’s attendance is below 92% (including authorised absence) to discuss the matter.
Illness: We understand that children are going to be unwell. Please make every effort to send your child to school. Staff will contact you if our child is unwell during the day then. If the welfare officer notices that a child is absent from school regularly due to illness then they will contact you and ask for medical evidence that your child was unwell.
Holidays: All children are expected to attend school during the term time. Parents/carers MUST complete the authorised absence application form before taking their child out of school. If your child's attendance percentage is below 94% for 2024-2025 then holidays will not be authorized by the school.
A number of pupils are also arriving late to school. Please note that pupils should be in their classrooms by 08:50.
We do hope that you can work with us in order to raise the attendance of our pupils.