Croeso i Flwyddyn 2/ Welcome to Year 2
Croeso i Flwyddyn 2!
Welcome to Year 2!
Staff:
Mrs Luned Jones
yw'r athrawes ddosbarth/ is the class teacher.
Mrs Tara Jones
sy'n cynorthwyo o fewn y dosbarth/ is the teaching assistant within the class.
Amseroedd/ School times:
Dydd Llun - Dydd Gwener, 08:50 - 15:20
Monday - Friday, 08:50-15:20
Thema'r dosbarth/ Class theme:
|
Blwyddyn 2
|
Bwyd |
Lliwiau |
Ein Byd Mawr Crwn |
Mae disgyblion Blwyddyn 2 yn parhau i ddatblygu eu sgiliau o fewn Cwricwlwm i Gymru, gan adeiladu ar y sylfeini cadarn a osodwyd yn y Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1. Rhoddir pwyslais parhaus ar ddatblygu annibyniaeth, gan annog y plant i wneud penderfyniadau am eu dysgu, gweithio'n gynyddol annibynnol a datblygu gwydnwch wrth wynebu heriau.
Mae datblygu medrau llythrennedd a darllen yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol. Caiff sgiliau ffoneg eu hatgyfnerthu ymhellach er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu rhuglder, dealltwriaeth a hyder wrth ddarllen amrywiaeth o destunau. Rhoddir cyfleoedd hefyd i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol a ffeithiol ar draws pob maes dysgu a phrofiad.
Yn ogystal, mae'r disgyblion yn parhau i ddatblygu eu sgiliau rhifedd, rhesymu a datrys problemau, gan gymhwyso'r medrau hyn mewn cyd-destunau ymarferol ac ystyrlon.
Bydd dysgwyr Blwyddyn 2 hefyd yn cymryd rhan yn yr Asesiadau Personol Cenedlaethol mewn Darllen Cymraeg, Rhifedd a Rhifedd (Rhesymu). Yn gyffredinol, cynhelir yr asesiadau hyn yn ystod tymor yr haf, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr i gefnogi athrawon wrth gynllunio'r camau nesaf yn nysgu pob plentyn.
Mae'n bwysig cofio bod pob plentyn yn datblygu ar ei gyflymder ei hun. Ein nod yw sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel, yn hapus ac yn hyderus wrth iddynt wneud cynnydd a chyflawni eu potensial llawn.
Year 2 pupils continue to develop their skills within the Curriculum for Wales, building on the strong foundations established in Reception and Year 1. There is an ongoing emphasis on developing independence, encouraging children to make decisions about their learning, work increasingly independently and develop resilience when faced with challenges.
The development of literacy and reading skills remains a key priority. Phonics skills continue to be reinforced to ensure learners develop fluency, comprehension and confidence when reading a variety of texts. Pupils are also given regular opportunities to develop their creative and factual writing skills across all Areas of Learning and Experience.
In addition, children continue to develop their numeracy, reasoning and problem-solving skills, applying these skills in practical and meaningful contexts.
Year 2 learners also take part in the National Personalised Assessments in Welsh Reading, Numeracy (Procedural) and Numeracy (Reasoning). These assessments are usually completed during the summer term and provide valuable information to support teachers in planning the next steps in each child’s learning journey.
It is important to remember that every child develops at their own pace. Our aim is to ensure that every learner feels safe, happy and confident as they make progress and achieve their full potential.
Gwaith Cartref/ Homework:
Danfonir gwaith cartref allan yn wythnosol naill ai ar bapur neu ar Microsoft Teams. Rhoddir gwaith cartref sillafu a llyfrau darllen wythnosol hefyd.
Homework is sent out weekly. The homework will be given either in paper format or digitally via Microsoft Teams. Spelling and reading work will be set as extra homework activities.
Aml-ieithrwydd/ Multilingualism:
Mae'r ysgol yn cyflwyno nifer o ieithoedd ar lawr y dosbarth. Mae disgyblion Blwyddyn 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau Ffrangeg.
We introduce the children to a wide variety of languages across the school. year 2 will further develop their knowledge of French.