Menu

Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago

Dim ond ein gorau glas sy’n ddigon da

Welcome

Cyngor Eco/ Eco Council

Mae'r Eco-Gyngor yn gyfrifol am gynrychioli'r dosbarth pan ddaw at faterion eco yr ysgol a'r amgylchedd. Rydyn yn cwrdd yn achlysurol er mwyn trafod unrhyw bryderon neu adborth o'r dosbarth. Eleni, banciau bwyd lleol yw prif darged yr ysgol.

 

The Eco Council is responsible for representing the class when it comes to school and environmental issues.

Targedau 2025-2026:

Targed 1: Hybu Ymwybyddiaeth a Chyfrifoldeb Amgylcheddol

  • Trefnu gwasanaeth y tymor i gyflwyno aelodau’r Cyngor Eco a’u targedau.
  • Cynnal wythnos Eco i godi ymwybyddiaeth am arferion cynaliadwy.
  • Trefnu ymgyrch “Diffoddwch y trydan!” i leihau defnydd diangen o egni.

Targed 2: Lleihau Gwastraff ac Hybu Ailgylchu

  • Trefnu ailgylchu dillad yr ysgol.
  • Cynnal ymgyrch lleihau defnydd o bapur ac plastig ar draws yr ysgol.
  • Trefnu casgliad sbwriel a chasglu dail i wella amgylchedd yr ysgol.

Targed 3: Gwella Iechyd a’r Amgylchedd Naturiol

  • Trefnu gweithgaredd garddio a gwella tir yr ysgol.
  • Hybu mis bwyta’n iach fel rhan o ymwybyddiaeth eco.
  • Cynnal awdit egni i fonitro defnydd adnoddau a chynllunio gwelliannau

Targed 1:

Diolch yn fawr i’r CRA am gydweithio gyda Cyngor Eco YGG Bryniago ar yr ymgyrch yma. Edrychwn ymlaen i wneud yr ysgol yn fwy gwyrdd dros y misoedd nesaf!

It’s wonderful seeing the PTA and the Bryniago Eco Council working alongside in order to make the school greener! We can’t wait to see the improvements!

 

Targed 3:

Top