Menu

Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago

Dim ond ein gorau glas sy’n ddigon da

Welcome

Cyngor Ysgol/ School Council

Cymuned o blant sydd yn cael eu hethol gan eu cymheiriaid ar ddechrau pob blwyddyn ydy Cyngor Ysgol Bryniago. Nod pennaf y cyngor ydy dod ynghyd i gynnig llais i bob plentyn yn yr ysgol. Fe fydd pob dosbarth o Flwyddyn 2 hyd at flwyddyn 6 yn ethol un aelod, gydag aelodau Blwyddyn 6 yn cymryd cyfrifoldeb dros gadeirio. Ar ddechrau’r flwyddyn, fe fydd aelodau’r cyngor yn penderfynu ar dargedau pen agored a thrwy drafodaethau rhwng aelodau’r cyngor a’u dosbarthiadau, fe fydd gweithredoedd yn cael eu rhoi mewn lle er mwyn gwireddu targedau sydd yn sicr o wella bywyd ysgol ein disgyblion.

 

Ysgol Bryniago’s School Council is a community of children who are elected by their peers at the beginning of each year. The main aim of the council is to come together to offer a voice to every child in the school. Each class from Year 2 to Year 6 will elect one member, with Year 6 members taking responsibility for chairing. At the beginning of the year, council members will decide on open-ended targets and through discussions between council members and their classes, actions will be taken in place to achieve targets that are guaranteed to improve the school life of our pupils.

Targedau 2025-2026:

Targed 1: Hybu Llais y Disgybl a Chydberthnasau Cadarnhaol

  • Trefnu gwasanaeth y tymor i gyflwyno aelodau’r Cyngor Ysgol a’u targedau.
  • Cynnal cystadleuaeth poster caredigrwydd fel rhan o Wythnos Gwrth-fwlio.
  • Trefnu neges caredigrwydd ar Ddiwrnod Santes Dwynwen.

Targed 2: Cefnogi Lles a Chynhwysiant trwy Ddigwyddiadau Ysgol

  • Trefnu diwrnod Plant Mewn Angen a Comic Relief.
  • Trefnu dathliad Nadolig a gweithgareddau Chwe Gwlad.
  • Cynnal eisteddfod ysgol i hyrwyddo diwylliant a chreadigrwydd.

Targed 3: Hyrwyddo Iechyd a Lles Corfforol

  • Trefnu mis bwyta’n iach a ymgyrch cinio ysgol iachus.
  • Trefnu wythnos cerdded i’r ysgol i annog gweithgarwch corfforol.

 

Y Cyngor Ysgol ar waith/ The School Council at their work:

Top