Croeso i Flwyddyn 5/ Welcome to Year 5
Croeso i Flwyddyn 5!
Welcome to Year 5!
Staff:
Mr Iwan Jones
yw'r athro dosbarth/ is the class teacher.
Miss Rhiannon Evans
sy'n cynorthwyo o fewn y dosbarth/ is the teaching assistant within the class
Amseroedd/ School times:
Dydd Llun - Dydd Gwener, 08:50 - 15:20
Monday - Friday, 08:50-15:20
Thema'r dosbarth/ Class theme:
|
Blwyddyn 5 |
Cadw’n heini |
Saith rhyfeddod y byd |
Byd Gwyrdd |
Mae Blwyddyn 5 yn flwyddyn gyffrous wrth i’r dysgwyr barhau i ddatblygu fel unigolion annibynnol, hyderus ac uchelgeisiol. Rhoddir mwy o gyfleoedd iddynt gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu, gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm a datblygu eu sgiliau arwain trwy amrywiaeth o weithgareddau yn y dosbarth ac ar draws yr ysgol.
Yn ystod y flwyddyn, mae’r dysgwyr yn parhau i fireinio eu medrau llythrennedd yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan ddatblygu eu gallu i ddarllen, trafod ac ysgrifennu ar gyfer gwahanol ddibenion a chynulleidfaoedd. Rhoddir pwyslais hefyd ar ddatblygu medrau meddwl, creadigrwydd a datrys problemau ar draws pob maes dysgu a phrofiad.
Mae llawer o ddisgyblion Blwyddyn 5 yn manteisio ar gyfleoedd i gynrychioli’r ysgol mewn gweithgareddau chwaraeon, diwylliannol a chymunedol, gan ddatblygu hyder, gwaith tîm a balchder yn eu hysgol.
Bydd dysgwyr Blwyddyn 5 yn cymryd rhan yn yr Asesiadau Personol Cenedlaethol mewn Darllen Cymraeg, Darllen Saesneg, Rhifedd (Trefnol) a Rhifedd (Rhesymu), fel arfer yn ystod tymor yr haf. Defnyddir y wybodaeth o’r asesiadau hyn i gefnogi cynnydd a datblygiad parhaus pob plentyn.
Wrth i’r plant symud yn nes at ddiwedd eu cyfnod yn yr adran iau, rydym yn eu hannog i ddatblygu gwydnwch, cyfrifoldeb a hyder yn eu galluoedd, gan eu paratoi ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’u blaenau.
ear 5 is an exciting year as learners continue to develop as independent, confident and ambitious individuals. They are given increasing opportunities to take responsibility for their learning, work effectively as part of a team and develop leadership skills through a range of classroom and whole-school activities.
Throughout the year, pupils continue to refine their literacy skills in both Welsh and English, developing their ability to read, discuss and write for a variety of purposes and audiences. There is also a strong focus on developing critical thinking, creativity and problem-solving skills across all Areas of Learning and Experience.
Many Year 5 pupils take advantage of opportunities to represent the school in sporting, cultural and community activities, helping to develop confidence, teamwork and a sense of pride in their school.
Year 5 learners take part in the National Personalised Assessments in Welsh Reading, English Reading, Numeracy (Procedural) and Numeracy (Reasoning), usually during the summer term. The information gained from these assessments helps support pupil progress and informs future learning.
As pupils move closer to the end of their time in the junior department, they are encouraged to develop resilience, responsibility and confidence in their abilities, preparing them for the challenges and opportunities that lie ahead.
Gwaith Cartref/ Homework:
Danfonir gwaith cartref allan yn wythnosol naill ai ar bapur neu ar Microsoft Teams. Rhoddir gwaith cartref sillafu a llyfrau darllen am yn ail iaith yn wythnosol hefyd.
Homework is sent out weekly. The homework will be given either in paper format or digitally via Microsoft Teams. Welsh and English spelling and reading work will be set as extra homework activities.
Aml-ieithrwydd/ Multilingualism:
Mae'r ysgol yn cyflwyno nifer o ieithoedd ar lawr y dosbarth. Ym Mlwyddyn 5 rydyn ni'n datblygu dealltwriaeth y disgyblion o'r cysylltiad sydd rhwng ieithoedd ar draws y byd. Rhoddir cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 5 hefyd i ddatblygu eu sgiliau Ffrangeg.
We introduce the children to a wide variety of languages across the school. In Year 5 the pupils will develop their knowledge of the connections between languages. They will also be given an opportunity to develop their knowledge of French.