Daniel y Deinasor
Daniel y Deinasor doniol,
Aeth gyda Marged am yr ysgol,
O nefi blw, y fath halibalw!
Daniel y deinasor, doniol!
Mae gen i wddf hir a thal,
gallaf weld dros bob wal,
A chynffon hir i'w chwifio,
Ac nid oes un angen
Am siglen na llithren,
Ar fy nghorff cawn chwarae a neidio!
Daniel y Deinasor doniol,
Aeth gyda Marged am yr ysgol,
O nefi blw, y fath halibalw!
Daniel y deinasor, doniol!
Sanau Newydd Sali
Glywsoch chi am Sali yr Octopws?
Peidiwch dod rhy agos ney fe gewch chi sws!
Wyth o goesau tenau sydd yn nofio dan y tonnau,
"Beth sydd yn y parsel, Twm?"
"Wel, anrheg bach o sanau!"
Wyth o sanau lliwgar iawn i Sali'r Octopws.
Ond peidiwch dod rhy agos neu fe gewch chi sws!
SWS!
Lola'r Lindys Barus
Lola'r Lindys ydy hon,
Mae hi'n bwyta popeth bron!
Beth sydd yma?
Sosej fawr,
Lola sy'n ei bwyta nawr.
O dyma flasus, dyma dda,
Bwyta'r cyfan, o la la,
Dyma flasus, dyma dda,
Bwyta'r cyfan o la la, o la la!
brechdan ham
creision caws
cacen siocled
lolis ia
bolognese
Bwyta bresych yn yr ardd
Wna pob lindys bychan, hardd,
ond 'rhen Lola welwch chi
Un reit farus ydy hi
O dyma flasus, dyma dda,
Bwyta'r cyfan, o la la,
Dyma flasus, dyma dda,
Bwyta'r cyfan o la la, o la la!
Ow, ow, mae fy mol i'n brifo
Mae Lola Lindys nawr yn crio
Da chi cofiwch stori Lola,
Peidiwch chi a byth gorfwyta!
O dyma flasus, dyma dda,
Bwyta'r cyfan, o la la,
Dyma flasus, dyma dda,
Bwyta'r cyfan o la la, o la la!