Menu

Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago

Dim ond ein gorau glas sy’n ddigon da

Welcome

Cwricwlwm/ Curriculum:

Addysgir y disgyblion o 3-7 oed ar safle Bryniago Bach.

Addysgir y disgyblion o 7-11 oed ar safle Bryniago Mawr.

 

Pupils from 3 to 7 years old are educated on the Bryniago Bach site.

Pupils from 7 to 11 years old are educated on the Bryniago Mawr site.

Gweledigaeth Cwricwlwm YGG Bryniago

Ein nod yn Ysgol Gymraeg Bryniago yw cynnig cwricwlwm deinamig, perthnasol, pwrpasol ac ysgogol sy’n tanio’r angerdd am ddysgu yn ein dysgwyr. Bydd ein cwricwlwm yn cynnig profiadau eang, gwerthfawr a chofiadwy i’n dysgwyr. Bydd yn eu grymuso i adeiladu ar eu sgiliau a’u gwybodaeth blaenorol. Byddant yn cael eu herio i brofi llwyddiant. Bydd bob plentyn yn cael mynediad cyflawn at y profiadau, y wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw ym myd gwaith, ar gyfer dysgu gydol oes ac er mwyn bod yn ddinasyddion gweithredol. Yn ganolog i’n cwricwlwm cynhwysol mae ein hymrwymiad i ddatblygu meddylfryd a pherthnasoedd cadarnhaol fel bod ein dysgwyr yn ffynnu. O dan ein gofal a’n harweiniad bydd ein cwricwlwm yn datbygu ein dysgwyr i fod yn ddinasyddion annibynnol a chydweithredol a fydd yn barod i gerdded ymlaen yn hyderus yn eu cymuned leol, Cymru a’r byd ehangach. Ysgogwn ein plant i deimlo balchder am eu gwlad a’u hiaith ac i drysori eu hetifeddiaeth a’u diwylliant.

“Allwedd diwylliant yw iaith”.

Agorwn ddrysau’r dyfodol i blant ysgol Bryniago.

 

YGG Bryniago's Curriculum Vision

Our aim at Ysgol Gymraeg Bryniago is to offer a dynamic, relevant, appropriate and stimulating curriculum that sparks a passion for learning in our learners. Our curriculum will offer our learners broad, valuable and memorable experiences. It will empower them to build on their previous skills and knowledge. They will be challenged to prove success. All children will have full access to the experiences, knowledge and skills they need in the world of work, for lifelong learning  and to be active citizens.  Central to our inclusive curriculum is our commitment to developing positive thinking and relationships so that our learners thrive. Under our care and guidance our curriculum will develop our learners to be independent and co-operative citizens who will be ready to walk forward with confidence in their local community, in Wales and in the wider world. We inspire our children to feel proud of their country and language and to treasure their legacy and culture.

"Language is the key to culture".

We will open the doors of the future to the children of Ysgol Bryniago.

Crynodeb o Gwricwlwm yr ysgol: YGG Bryniago: Summary of the School Curriculum

Dewch i adnabod y Cwricwlwm Newydd yn well/ Let's Get to know the New Curriculum:

Y Pedwar Diben/ The Four Purposes

Mae cwricwlwm Ysgol Bryniago yn cael ei lywio gan y pedwar diben. Mae’r pedwar diben yn ymgorffori gweledigaeth y Cwricwlwm i Gymru, ac yn cynrychioli dyheadau’r ysgol yn ogystal a'n huchelgeisiau ar gyfer pob dysgwr, gan eu galluogi i ddod yn:

• ddysgwyr uchelgeisiol a galluog

• ddinasyddion egwyddorol a gwybodus

• gyfranwyr mentrus a chreadigol

• unigolion iach a hyderus.

Bydd holl brofiadau dysgu YGG Bryniago yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr symud ymlaen tuag at y pedwar diben hyn. Y rhain yw'r man dechrau, yn ogystal â'r gyrchfan, a rhaid iddynt fod yn sail i bob penderfyniad.

 

Ysgol Bryniago's curriculum is informed by the four purposes. The four purposes embody the vision of the Curriculum for Wales, and represent the aspirations of the school as well as our ambitions for all learners, enabling them to become:

• ambitious, capable learners

• ethical, informed citizens

• enterprising, creative contributors

• healthy, confident individuals.

All YGG Bryniago's learning experiences will provide opportunities for learners to progress towards these four purposes. These are the starting point, as well as the destination, and must form the basis of all decisions.

Unigolion iach, hyderus.

Bydd ein dysgwyr yn datblygu i fod yn:

  • Unigolion deallus, onest a hyderus sy’n arddangos hunan-gred, hunan-barch a sydd â gwerthoedd personol cadarnhaol.
  • Unigolion sy’n deall ac yn arddangos empathi tuag at emosiynau a chredoau eraill ac sy’n gwerthfawrogi pwysigrwydd diogelwch personol, iechyd meddwl a chorfforol da yn ogystal a diet cytbwys.
  • Unigolion sydd â dealltwriaeth o hawliau plant a’u cyfrifoldebau personol wrth ddangos sgiliau cymdeithasol cadarnhaol, ymddireidaeth a pharch at ei gilydd.

Healthy, confident individuals.

Our learners will develop into:

  • Intelligent, honest and confident individuals who display self-belief, self-esteem and have positive personal values.
  • Individuals who understand and display empathy towards others’ emotions and beliefs, and who value the importance of personal safety, good health and physical health as well as a balanced diet.
  • Individuals with an understanding of children's rights and personal responsibilities whilst demonstrating positive social skills, trust and mutual respect.

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog.

Bydd ein dysgwyr yn datblygu i fod yn:

  • Unigolion sy’n dangos gwytnwch ac yn croesawu her. Byddant yn dangos agweddau cadarnhaol tuag at bob agwedd o fywyd ysgol.
  • Unigolion sy’n dyfalbarhau, sy’n aneli am safonau uchel wrth gydnabod bod gwneud camgymeriadau yn arwain at ddysgu.
  • Unigolion sy’n uchelgeisiol, yn credu yn eu gallu eu hunain a sy’n gweerthfawrogi bod ymdrech ac agwedd cadarnhaol at eu dysgu yn allweddol i lwyddiant.

Ambitious, capable learners.

Our learners will develop into:

  • Individuals who show resilience and embrace challenge. They will show positive attitudes towards all aspects of school life.
  • Individuals who persevere, who aim for high standards, whilst recognising that making mistakes leads to learning.
  • Individuals who are ambitious, who believe in their own ability and who appreciate that a positive effort and attitude to their learning is key to success.

Dinasyddion Gwybodus, Moesegol.

Bydd ein dysgwyr yn datblygu i fod yn:

  • Unigolion sydd, trwy brofi amrywiaeth enag o gyfleoedd cymdeithasol, emosiynol, diwylliannol ac ysbrydol, yn dod yn ddinasyddion cyfrifol.
  • Unigolion sy’n gwneud dewisiadau da.
  • Unigolion sydd a dealltwriaeth o faterion cymdeithasol, moesol a moesegol.
  • Unigolion sydd ag ymdeimlad o berthyn a balchder yn eu hysgol, eu cymuned a’u gwlad.

Ethical, informed citizens.

Our learners will develop into:

  • Individuals who, by experiencing a wide range of social, emotional, cultural and spiritual opportunities, become responsible citizens.
  • Individuals who make good choices.
  • Individuals with an understanding of social, moral and ethical issues.
  • Individuals with a sense of belonging and pride in their school, their community and their country.

Cyfranwyr mentrus, creadigol.

Bydd ein dysgwyr yn datblygu i fod yn:

  • Unigolion sydd wedi eu grymuso i fod yn frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn cymryd rhan lawn yn eu dysgu.
  • Unigolion sydd yn greadigol, sydd a meddwl annibynnol, unigryw a sy’n barod i gymryd rhan llawn yn eu dysgu a’u bywyd ysgol a’u cymuned.
  • Unigolion dyfeisgar a myfyriol, sy’n rhannu syniadau yn hyderus ac yn defnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth i ddatrys problemau gan feddwl am eu dysgu.
  • Unigolion sy’n croesawu’r her o ddatrys problemau ac yn dangos hyblygrwydd meddwl.

Enterprising, creative contributors.

Our learners will develop into:

  • Individuals who are empowered to be enthusiastic, motivated and fully involved in their learning.
  • Individuals who are creative and have an independent, unique mind who are ready to participate fully in their learning, their school life and their community.
  • Innovative and reflective individuals, who share ideas confidently and use their skills and knowledge to solve problems whilst thinking about their learning.
  • Individuals who embrace the challenge of problem solving and show flexibility of mind.

 

Themau YGG Bryniago Themes:

Trefniadaeth y Cwricwlwm: Cyfnod Sylfaen (Meithrin)

Wythnosau ffocws:

Focus weeks:

Wythnos ffocws yn ddibynnol ar adeg y flwyddyn/ beth sy’n gyfredol.

The focus weeks are based on the time of year and planned events within the calendar.

 

Gwaith thematig: (llythrennedd, rhifedd, digidol)

Theme work: (literacy, numeracy and digital competency)

Gwaith thematig trwy’r tymor- sy'n cael ffocws am bythefnos. 

-Tasg Mathemateg a Rhifedd yn gysylltiedig â’r thema.
-Tasg Iaith a llythrennedd yn gysylltiedig â’r thema.
-Tasgau traws-gwricwlaidd yn seiliedig â’r tasgau cyfoethog (yn cynnwys tasgau digidol).
-The themed work lasts for the duration of the term- the teacher will break the theme into sub-themes. These will last 2 weeks.
--Mathematics and numeracy task based on the theme
--Literacy and language task based on the theme
--Curricular tasks based on the theme (including digital competency tasks)

 

Trefniadaeth y Cwricwlwm: Cyfnod Sylfaen (Derbyn - Blwyddyn 2):

 

Wythnosau ffocws:

Focus weeks:

Wythnos ffocws yn ddibynnol ar adeg y flwyddyn/ beth sy’n gyfredol.

The focus weeks are based on the time of year and planned events within the calendar.

 

Gwaith thematig: (llythrennedd, rhifedd, digidol)

Theme work: (literacy, numeracy and digital competency)

Gwaith thematig trwy’r tymor- gellir cael ffocws penodol am wythnos/ cyfnod.

-Tasg Mathemateg a Rhifedd yn gysylltiedig â’r thema.
-Tasg Iaith a llythrennedd yn gysylltiedig â’r thema.
-Tasgau traws-gwricwlaidd yn seiliedig â’r tasgau cyfoethog (yn cynnwys tasgau digidol).
-The themed work lasts for the duration of the term- the teacher will break the theme into sub-themes. These will last 1-2 weeks.
--Mathematics and numeracy task based on the theme
--Literacy and language task based on the theme
--Curricular tasks based on the theme (including digital competency tasks)

Tasg gyfoethog:

Rich tasks:

Sesiwn llythrennedd:

Literacy session:

Ffocws ar ddatblygu llafar, darllen ac ysgrifennu Cymraeg ac aml-ieithog y dysgwyr.

Focused tasks in order to further develop oracy, reading and writing skills in Welsh and multilingualism.

 

Trefniadaeth y Cwricwlwm: Cyfnod Allweddol 2 (Blwyddyn 3- Blwyddyn 6):

2 wythnos ffocws
3-4 wythnos bwydlen thema
6 wythnos tasg gyfoethog
Sesiwn llythrennedd a rhifedd dyddiol

 

2 focused weeks
3-4 weeks of the theme menu
6 weeks of the rich task
Daily literacy and numeracy sessions

Wythnosau ffocws:

Wythnos ffocws yn ddibynnol ar adeg y flwyddyn/ beth sy’n gyfredol./ Wythnos ffocws gwyddoniaeth/ Wythnos ffocws Addysg Grefyddol

The focus weeks are based on the time of year and planned events within the calendar.

They can also be based on science and technology and religious study aspects.

Bwydlen Thema (llythrennedd, rhifedd, digidol)

Cyfle i’r disgybl i ddewis beth mae ef/hi am ddysgu mwy amdano o fewn y thema

This is an opportunity to develop pupil voice within the theme.

Tasg gyfoethog:

(llythrennedd, rhifedd, digidol)

Creu tasg gyfoethog fel grwp/ dosbarth yn seiliedig ar y thema. 5 tasg wahanol yn cylchdroi dros gyfnod o 5 wythnos.

Rich tasks are completed as a group/ class and are based on the class theme. 5 tasks will rotate over a period of 5 weeks.

Sesiwn llythrennedd:

Ffocws ar ddatblygu llafar, darllen ac ysgrifennu Cymraeg/ Saesneg ac aml-ieithog y dysgwyr.

Focused tasks in order to further develop oracy, reading and writing skills in Welsh and multilingualism.

Sesiwn Rhifedd

Dilynir cynllun Mathemateg yr ysgol.

The maths scheme of work is followed.

Ar ddiwrnod pontio i’r dosbarth newydd mae’r disgyblion yn cael cyfle i ddewis tri thema am y flwyddyn. Mae pob dosbarth yn dilyn thema am dymor.

 

Mae plant y Meithrin, Derbyn,  Blwyddyn 1 a 2 yn dysgu drwy thema. Maent yn cael cyfle i ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol drwy amrywiaeth o weithgareddau ffurfiol ac ymarferol yn yr ystafell ddosbarth neu allan yn yr awyr agored. Gosodir tasg gyfoethog sy’n gysylltiedig â thema pob dosbarth. Bydd plant pon dosbarth yn cyd-weithio i gwblhau’r dasg gyfoethog erbyn diwedd bob tymor.

Mae plant Blwyddyn 1 yn cael eu cyflwyno i Sbaeneg yn ystod y flwyddyn. Mae plant Blwyddyn 2 yn cael eu cyflwyno i Ffrangeg yn ystod y flwyddyn.

 

Mae disgyblion Blwyddyn 3-6 hefyd yn dysgu drwy thema. Maent yn cael cyfle i ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol drwy amrywiaeth o weithgareddau ffurfiol ac ymarferol yn yr ystafell ddosbarth neu allan yn yr awyr agored. Gosodir tasg gyfoethog sy’n gysylltiedig â thema pob dosbarth. Bydd plant pon dosbarth yn cyd-weithio i gwblhau’r dasg gyfoethog erbyn diwedd bob tymor. Rhoddir cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 3-6 i gwblhau cwestiynau ymchwilio sy’n gysylltiedig â thema’r dosbarth. Mae’r Fwydlen Thema yn gyfle i’r dysgwyr i gymryd cyfrifodeb dros beth y maent yn ei ddysgu ar lawr y dosbarth a sut maent yn cyflwyno’r hyn maent wedi ei ddysgu. Mae disgyblion Blwyddyn 3 a 4 yn  cael eu cyflwyno i ieithoedd eraill y byd yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Maent hefyd yn adeiladu ar eu gwybodaeth o Sbaeneg. Mae disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn datblygu eu medrau aml-ieithrwydd. Maent hefyd yn enhangu ar eu gwybodaeth o Ffrangeg.

 

Pupils have an opportunity to voice their opinions about the class themes on their annual transition day in July. Each class follows a theme for a term.

 

Nursery, Reception, Year 1 and 2 complete theme work activities. They will learn indoors and outdoors. They will be given an opportunity to develop their literacy, numeracy and digital skills through a variety of formal and practical. A rich task is set every term. By the end of the term the class will work together in order to fullfill this rich task activity.

Year 1 children are introduced to Spanish during the year. Year 2 children are introduced to French during the year.

 

Year 3-6 pupils also complete theme work activities.  They have the opportunity to develop their literacy, numeracy and digital skills through a variety of formal and practical activities. A rich task is set every term. By the end of the term the class/ group/ pair will work together in order to fullfill this rich task activity.

Year 3-6 pupils are given the opportunity to complete research questions related to the class theme. This is called the Theme Menu.  The Theme Menu is an opportunity for learners to choose what they would like to learn based on the class theme for the term. They will research questions and present their findings in an interesting manner. Year 3 and 4 pupils are introduced to different languages ​​during their time at school. They also build on their knowledge of Spanish. Year 5 and 6 pupils develop their multilingual skills. They also enhance their knowledge of French.

Top