Mae'r Eco-Gyngor yn gyfrifol am gynrychioli'r dosbarth pan ddaw at faterion eco yr ysgol a'r amgylchedd. Rydyn yn cwrdd yn achlysurol er mwyn trafod unrhyw bryderon neu adborth o'r dosbarth. Eleni, banciau bwyd lleol yw prif darged yr ysgol.
The Eco Council is responsible for representing the class when it comes to school and environmental issues.
Targedau’r Cyngor Eco am 2023-2024:
Adroddiad y Cyngor Eco: Haf 2022
Mae’r Cyngor Eco wedi bod yn brysur iawn y tymor hwn. Mae’r Cyngor Eco yn cydweithio’n agos gydag ymgyrch Brynia-Go Gwyrdd y Gymdeithas Rieni ac Athrawon (CRA). Daeth Mrs Sharon Thomas, Cadeirydd y CRA i gyfarfod â’r Cyngor eco ar ddiwedd tymor y Gwanwyn er mwyn creu cynllun gweithredu ar gyfer yr ymgyrch. Y targedau y cytunwyd arnynt oedd:
Erbyn hyn mae’r CRA wedi sefydlu tudalen codi arian i’r ysgol (hyd yn hyn maent wedi codi £230). Trefnodd y Cyngor Eco gystadleuaeth i ddylunio poster i gyd-fynd â’r ymgyrch. Mae baneri ‘Brynia-Go gwyrdd wedi eu harddangos tu allan i giatiau Bryniago Bach a Mawr a braf yw gweld poster Maddison Blwyddyn 6 ar y baneri hyn. Bu’r Cyngor Eco hefyd yn brysur yn paratoi fideo i lawnsio’r ymgyrch. Rhannwyd hwn ar Class Dojo gyda’r holl rieni ac mae i weld ar wefan yr ysgol.
Targed 1: Mae’r Cyngor Eco wedi dechrau plannu mwy o blanhigion a choed ar dir yr ysgol. Diolch i Ganolfan Garddio Pontarddulais ac i tesco Pontarddulais am eu rhoddion caredig. Bydd mym mis Mwy o blanhigion yn cyrraedd dros yr wythnosau nesaf.
Targed 3: Trefnwyd casgliad dillad ac esgidiau ail-law trwy ‘Rags2Riches’. Helpodd y Cyngor Eco drefnu’r bagiau a chasglwyd 149Kg o hen ddillaf. Codwyd £59.68 i’r ysgol.
Targed 4: Mae’r Cyngor Eco a’r CRa yn gobeithio agor siop gwisg ysgol ail-law yn y ffair Haf eleni.
Targed 5: Gofynnodd y Cyngor eco i Miss Jones i hysbysu rhieni am wythnos cerdded i’r ysgol ym mis Mai er mwyn annog mwy o blant i gerdded neu feicio i’r ysgol yn hytrach na neidio yn y car.
Targed 2: Mae angen archebu mwy o focsys plannu fel ein bod yn gallu tyfu ffrwythau a llysiau ein hunain. Bydd y Cyngor Eco yn gweithio ar y darged yma gyda’r CRA dros y misoedd nesaf.
Diolch yn fawr i’r CRA am gydweithio gyda Cyngor Eco YGG Bryniago ar yr ymgyrch yma. Edrychwn ymlaen i wneud yr ysgol yn fwy gwyrdd dros y misoedd nesaf!
It’s wonderful seeing the PTA and the Bryniago Eco Council working alongside in order to make the school greener! We can’t wait to see the improvements!